Y Pentref
Pentref bach hardd yw Abergwyngregyn sy’n swatio mewn dyffryn ar ymyl gogleddol mynyddoedd y Carneddau. Lleolir ef ar Gyffordd 13 o’r A55, rhwng Bangor a Llanfairfechan.
Yr Hen Felin

Wedi ei lleoli yng nghanol y pentref, hen felin flawd sydd wedi ei throi’n Ganolfan Gymunedol y pentref yw’r Hen Felin.
ARC

Meneter gymdeithasol yw Cwmni Adfywio Abergwyngregyn Regeneration Company (ARC) a Chwmni a Gyfyngir gan Warant. Rhedir y Cwmni gan Fwrdd Cyfarwyddwyr gwirfoddol wedi ei ffurfio o bobl o’r pentref neu unigolion eraill o ardaloedd cyfagos sydd â chysylltiadau agos â’r pentref. Bu ARC yn weithredol yn y pentref ers 2002, yn hybu lles y gymuned a datblygiad cymunedol cynaliadwy. Ailfuddsoddir pob elw yn y gymuned.