Elusen yw Dŵr Anafon CIO a gafodd ei sefydlu i ddosbarthu’r elw o gynllun Hydro Ynni Anafon Energy er budd y gymuned.
Mewn cyfarfod o’r Ymddiriedolwyr ar ar 18fed Chwefror gwnaed y penderfyniadau a ganlyn ar geisiadau am grantiau.
ARBED YNNI ABER
Gwnaed 8 cais gan drigolion Aber oedd wedi cwblhau’r arolwg o’u cartrefi ac a oedd yn gofyn am grantiau i gwblhau rhywfaint o’r gwaith a argymhellwyd.
Cyfanswm y ceisiadau oedd £6,679.10 a chytunwyd i gymeradwyo pob un yn ddi-wrthwynebiad. Hysbyswyd yr ymgeiswyr y byddent yn derbyn tâl unwaith y byddai Dŵr Anafon yn derbyn oddi wrthynt anfonebau wedi eu derbynebu.
Cynhelir cyfarfodydd o’r Ymddiriedolwyr ar y 3ydd dydd Mawrth o bob mis. Bydd y cyfarfod nesaf ar Ddydd Mawrth, 17eg Mawrth.
Dylid cyflwyno pob cais am grant ddwy wythnos cyn dyddiad y cyfarfod. Gellir anfon ceisiadau drwy e-bost at dwranafon@gmail.com neu at Dŵr Anafon, Yr Hen Felin, Abergwyngregyn, LL33 0LP