Elusen yw Dŵr Anafon a sefydlwyd i ddosbarthu elw defnyddiadwy cynllun Ynni Anafon Energy er lles y gymuned. Yn 2018/19 roedd hyn yn £30,000.
Mae’r elusen yn Sefydliad Ymgorfforol Elusennol (CIO) gyda bwrdd o ymddiriedolwyr sy’n dosrannu grantiau i gynlluniau addas.
Bydd ymddiriedolwyr yr elusen yn ystyried ceisiadau am grantiau ar gyfer ystod eang o gynlluniau. Rhwng 2017 a 2019 cyfyngir hyn i gynlluniau o fewn pentref Abergwyngregyn. Bydd trigolion pentref cyfagos Llanfairfechan yn cael ymgeisio am grantiau o Ionawr 2020 ymlaen.
Er ei fod dal yn gynllun newydd, mae’r elusen eisoes wedi darparu cyllid ar gyfer:
- Deffibriliwr, wedi ei osod yn yr Hen Felin, yng nghanol y pentref.
- Cymorth i ail-leoli cofeb ryfel y pentref.
- Ymgynghorydd arbed ynni i gynnal arolygon ar gyfer cartrefi yn y pentref.
- Dosbarthiadau Tai Chi er budd trigolion lleol.
Am wybodaeth bellach cliciwch yma