Dechreuwch eich taith fel Taith 2 ond ymestynnwch eich taith dros y bryniau ar ochr y dyffryn i greu taith gron.
O’r Rhaeadr, dewch yn ôl rhyw ychydig ac ewch i lawr y llwybr i groesi’r afon dros bont bren newydd ac yna dringo’r ochr arall i ymuno â llwybr garw sy’n rhedeg gyda brig y dyffryn gan groesi nant fechan islaw rhaeadr lai.
Dilynwch y llwybr hwn wrth iddo droi tua’r gogledd ar hyd ymyl dwyreiniol y dyffryn. Mae’r llwybr yn esgyn yn raddol nes i chi weld llwyn o goed bytholwyrdd tywyll ar y chwith i chi, ac yna yn y diwedd at glwyd sy’n arwain at ffordd sydd wedi ei hadeiladu’n rhannol.
Ewch i lawr y ffordd hon am ryw 5 munud ac fe welwch arwydd yn cyfeirio at lwybr cul a serth sy’n arwain i lawr i’r pentref yn ymyl yr Hen Felin.
Mae yna lwybr llai serth ond hwy i’w gael trwy barhau ymlaen ar hyd yr un ffordd, sy’n mynd y igam-ogam i waelod yr allt. Gellir wrth gwrs wneud y daith gron yn groes i’r cloc; mantais hyn yw eich bod yn cael y gwaith dringo drosodd ar y dechrau ac mae gweddill y daith wedyn yn hawdd!