Mae’r daith hon yn mynd â chi’n uchel uwchlaw dyffryn Aber i’r llyn hardd a elwir yn Lyn Anafon. Mae dŵr o’r llyn yma’n bwydo’r afon sy’n gwasanaethu Hydro Anafon ac wedyn yn ymuno â’r afon o’r rhaeadr yn agos at faes parcio Rhaeadr Aber.
Gyrrwch drwy’r pentref nes i chi gyrraedd maes parcio Rhaeadr Aber. Gallwch un ai adael eich car yma (neu yn y maes parcio ychwanegol y gwelir arwydd amdano wrth i chi groesi’r bont) a chroeswch y bont a dilyn y ffordd gul, droellog i fyny’r allt serth. Yn hytrach gallwch yrru i fyny’r ffordd hon i’r maes parcio di-dâl ar ben yr allt wrth y Giât Mynydd. Mae cerdded yn cymryd rhyw 25 – 30 mynud yn ychwaneg, ond mae’n osgoi’r problemau a achosir wrth gyfarfod ceir sy’n dod i lawr i gwrdd â chi.
O’r fan hon mae arnoch angen 2 – 2½ awr i fynd a dychwelyd felly gwnewch yn siŵr fod digon o amser gennych cyn iddi nosi. Mae yna giât fawr ym mhen draw’r maes parcio. Ewch drwy hon a dilynwch y llwybr wrth iddo esgyn tua’r chwith ac yna ymuno â llwybr arall sy’n ei groesi ac yn rhedeg tua’r dde i chi. Trowch i’r dde arno a cherddwch ar hyd y llwybr mewn cyflwr da sy’n arwain yn y pen draw at y llyn ym mlaen y cwm. Wrth i chi ddringo’r allt, gallwch weld ar y chwith i chi’r gored sy’n dangos lle mae’r dŵr yn caelo ei gasglu ar gyfer Hydro Anafon.
Mae’r llyn yn y cwm islaw copaon y Drum a Foel Fras.
Gellir ymestyn y daith hon trwy ddringo’r Drum neu Foel Fras ond i wneud hyn rhaid i chi fod â digon o amser, tywydd da, esgidiau dringo, map a chwmpawd, yn ogystal â dillad addas rhag ofn i’r tywydd droi’n ddrwg.
I ddychwelyd dylech fynd yn ôl yr un ffordd ag y daethoch. Mae yna lwybr arall, cul i esgyn o’r maes parcio y gellir dod o hyd iddo trwy ddilyn y mur ar yr ochr dde i’r maes parcio sy’n arwain ar yr afon, gan esgyn ar ochr chwith yr afon nes i chi ymuno â’r prif lwybr; gwell osgoi’r llwybr hwn os oes cryn lif yn yr afon.